The Celtic Literature Collective

Ystori Trystan y modd ir aeth ag Esyllt gwraig March y Mheirchion
Cardiff MS 43

Yn y cyfamser yr aeth Trystan ap Tallwch ag Esyllt, gwraig March y Meirchion, ar herw i goed Clyddon, a Golwg Hafddydd yn llaw forwyn gyda hi a�r B�ch Bychan yn bayts gidag ynte, yn dwyn pasteiod a gw�n gyda hwynt, a gwelu o ddail a wnaethpwyd yddunt. Ag yna yr aeth March y Mheirchion i gwynaw at Arthur rhag Trystan ag i dolwyn iddo ddial i sarhad ar Drystan o herwydd i fod ef yn n�s o garen̄ydd iddaw nag oedd Trystan, o achos fod March y Mheirchion yn gefnder i Arthur ag nad oedd Trystan ond nai fab cyfnither i Arthur. �Mi �f mi a�m teylu,� ebr Arthur, �i geisio naill ai jawn ai gw�diti.� Ag yna ir aethant yn ghylch coed Celyddon.

Cynedd[fau] oedd ar Drwstan: pwy bynag a dynai waed ar Drwstan marw fyddau; pwy bynag y tynau Dristan � waed marw a fyddae hwnw. A phen glowes Esyllt siarad o amgylch y coed, y crynnodd hi rhag dwylo Trystan. Ag yno y gofynnodd Trystan iddi paham y cryuasau; ag y dowad hithau mae rhag ofn am dano f�. Ag y canodd Trystan �r engln hwn:

�Esylit wen̄, na fydd ofnog;
Tra fwyb i�th erchwynog,
Nith ddŵg trais trychan marchog,
Na thrychanwr llirugog.�

Ag yno y cyfodes Trystan i fynu ag a gym̄erth ar ffrwst i gledde yn i law ag i kyrchodd y g�d yn gynta ag y gallodd oni chyfarfv a March y Mheirchion. Ag yna y dwad March y Meirchion: �Mi a�m [l]ladda fify hun, i ladd f�.� Ag yna y dowad y gwyr eraill oll: �Mefi i ninau od ymyrrwn arno fo.� Ag yna yr aeth Trystan trwy y tair cad yn ddiargywedd.

A Chau H�r oedd. yn caru Golwg Hafddydd. Sef a wnaeth yntav, dowod lle yr oedd Esyllt a chanu yr englyn hwn:

�Esyllt wen, serchog wylan,
ys dyweyd ar ymddiddan;
ef a ddiengis Trystan.�

Esylld:

�Cai wyn, os gw�r a ddyweidi
wrth ymddiddan a myf�,
gordderch avr yt a geff�.�

Kae Hir:

�Gordderch avr nis dymunaf
am y ddeydes a dyngaf:
Golwg Hafddydd geisiaf.�

Esylld:

�Os gw�r y chwedel gynau
a ddeydest ym o�th enau,
Golwg Hafddydd a fydd tau.�

Yna yr aeth March y Meirchion yr ail waith att Arthur ag ir wylawdd wrthaw am na chae nag jawn na gwad am ei wraig briod. Ag y dowad Arthur, �N� wnn i gyngor itti ond hyn̄: danfon gwyr o gerdd dallau i leisiaw iddaw o bell, ag yn ol hyny danfon gwyr o gerdd dafod ag englynion moliant.� A hyny a wnaethant. Ach wedi hyny Trystan alwodd y kerddorion atto ag a roddes iddynt ddyrneidie o aur ag arian. Ach wedi hyny y gyrrwyd am dangnefedd attaw, nid amgeu Gwalchmai. Ag y canai Gwalchmai y englyn hwn:

�Abrw[y]sg fydd ton anfeid[r]awl
pan fo�r m�r yn i ganawl:
pwy wyt filwr anianol.�

Trystan:

�Abrwysg a fydd ton̄ a tharan
cyd bo brwysg a gwahan:
yn nydd tr�n myfi yw Trystan.�

Gwalchmai:

�Trystan gyneddfai difai
ar dy �madrodd nid oes bai:
cydymeth [yt] oedd Walchmai.�

Trystan:

�Mi nawn er Walchmai nydd
o bai arno [waith kochwydd]
nas gwnai�r brawd er i gilydd.�

Gwalchmai:

�Trystan, bendefig eglyr,
dwys y dyrnod dy lafur:
mi yw Gwlchmai nai Arthur.�

Trystan:

�Yn gynt, Gwalchmai, nag yn rh�n,
o bai arnat waith brwydrin,
mi nawn waed hyd deilin.�

Gwalchmai:

�Trystan gyneddfau talgrwn,
oni gomoddai archgrwn,
mine a nawn gore [i] gallwn.�

Trystan:

�Mi ai gofynaf er caen
nis gofynaf er graen:
Pwy [yw]�r nifer sydd o'r blaen?�

Gwalchmai:

�Trystan gyneddfau hynod,
Nid ydynt i�th adnabod:
teulu Arthur [sydd] y�th ragod.�

Trystan:

�Er Arthur ni fogelaf,
naw can c�d a gynhyrfaf;
oni leddir mine a laddaf.�

Gwalch.:

�Trystan [gyfaill] rhianedd,
cyn̄ myned [yngwaith] coch[w]edd,
gorau dim oedd dangnefedd.�

Trystan:

�o chaf fy nghledd ar fy nghlun
a�m llaw ddehau [i�m ddiffyn,]
ai gwaeth i mi nag yddun.�

Gwalchmai:

�Trystan gyneddfau [eglur,]
hyddeil paladr o�th lafur;
na wrthod yn gftr Arthur.�

Trystan:

�Gwalchmai gyneddfau trada
gorwlychod cawad kan tyrfa;
fel im caro i cara.�

Gwalchmai:

�Trystan gyneddfau blaengar,
gorwiychod cawad kan d�r;
tyred i ymddiddan a�th g�r."

Trystan:

�Gwalchmai gyneddfau gwrth[g]rych,
gorwlych cawad kan rhych;
mi af ir lle i mynych.�

Yna yr aeth Trystan gyda Gwalchmai att Arthur, ag y canodd Gwalchmai yr englyn hwn:

�Arthur gyneddfau cymmen,
gorwlychod cawad kan pren;
llyma Drystan, bydd lawen.�

Yna canodd Arthur yr englyn hwn:

�Gwalchmai gyneddfau difai,
ynydd trin nid ymgelai;
croeso wrth Drystan, fy nai.�

Ag nid yngenai Trystan er hyn; ag y canodd Arthur yr ail englyn:

�Trystan wyn, bendefig llu,
car dy genedl gyda thu,
a mine, yn ben teulu.�

Ag nid yngenodd Trystan ddim er hyny; ag y canodd Arthur y 3dydd [englyn:]

�Trystan, bendefig cadau,
cymer cystal a�r gorau,
Ag yn gowir c�r finau.�

Ag nid yngenodd Trystan er hyn; ag y canodd Arthur y 4ydd [englyn:]

�Trystan gyneddfau mowrgall,
car dy genedi, nith dd�g gwall,
nid oera rhwng c�r a�r all.�

Yna yr attebai Trystan ag y canai yr englyn hwn i Arthur i ewyrth:

�Arthur, o honot y pwyllaf
ag o�th ben̄ y cymhenaf,
ag a fynech mi a�i gwnaf.�

Ag yno y rhodded y dyngnhefedd ar Arthur rhyng Trystan a March y Mheirchion. Ag ymddiddanodd Arthur a hwy ill deuwedd ar gylch; ag ni fynau yr un ohonunt fod heb Esyllt. Ag yno y barnodd Arthur hi i�r naill pen fae y dail ar y coed, ag i�r llal y pryd na bai y dail ar y coed; ag i�r gwr priod gael dewis. Ag a ddewise ynte y pryd na bae�r dail ar y coed, o achos mae hwya fydde�r nos yr amser hwnw. Ag y mynegawdd Arthur i Esyllt hyny; ag i dowad hithe, �Bendigedig fo�r farn a�r neb a�i rhoddodd!� Ag y canal Essyllt yr englyn hwn:

�Tri ffren sy dda i rryw:
kelyn ag eiddew ag yw,
a ddeilia�u [ddail] yn i byw;
Trystan pie fi yni fyw!�

Ag yn y modd hwnw y colles March y Mheirchion i wraig yn dragowydd. Ag felly y terfyna.

SOURCE
Cross, Thomas P. "A Welsh Trystan Episode." Studies in Philology. Vol. 17 (1912)